
2021 Rhif 368 (Cy. 113)
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 22 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 23 Mawrth 2021
Yn dod i rym 14 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 294(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 14 Ebrill 2021.
Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019
2 

(1) Mae Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen (troseddau sy’n ymwneud â physgota môr)—
(a) ym mharagraff 2, hepgorer is-baragraff (d);
(b) hepgorer paragraff 4;
(c) yn lle paragraff 6 rhodder—“
6. 
Yn Neddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, trosedd o dan—
(a) adran 139(1)(b) (y drosedd o dorri is-ddeddfau neu orchmynion), i’r graddau y mae’n ymwneud ag unrhyw orchymyn a wneir o dan—
(i) adran 134A (gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr: Cymru);
(ii) adran 134B (gorchmynion sy’n ymwneud â manteisio ar adnoddau pysgodfeydd môr: rhanbarth môr mawr Cymru);
(iii) adran 136(1A) (gorchmynion interim);
(b) adran 190 (troseddau).”;
(d) ar ôl paragraff 8 mewnosoder—“
8A. 
Yn Neddf Pysgodfeydd 2020, trosedd o dan—
(a) adran 12(3) (mynediad i bysgodfeydd Prydain gan gychod pysgota tramor);
(b) adran 14(6) (cychod pysgota Prydeinig y mae’n ofynnol iddynt fod wedi eu trwyddedu);
(c) adran 16(6) (cychod pysgota tramor y mae’n ofynnol iddynt fod wedi eu trwyddedu os ydynt o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain);
(d) paragraff 1(4) o Atodlen 3 (pŵer i osod amodau ynghlwm wrth drwydded pysgota môr).”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2021