
2021 Rhif 354 (Cy. 106) (C. 11)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Drosiannol) 2021
Gwnaed 18 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 175(7) ac (8) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Drosiannol) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2021” yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Mai 2021
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Mai 2021 i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym—
(a) adran 47;
(b) adran 49;
(c) Atodlen 4.
Darpariaeth drosiannol
3 

(1) Yn yr erthygl hon, ystyr “Deddf 1972” yw Deddf Llywodraeth Leol 1972.
(2) Mae unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall a gyhoeddir neu a anfonir cyn 1 Mai 2021 yn unol â’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) fel y’u haddaswyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir ar 1 Mai 2021 neu ar ôl hynny, i’w drin neu i’w thrin fel pe bai wedi ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi neu ei anfon neu ei hanfon yn unol â’r darpariaethau hynny fel y’u diwygiwyd gan Atodlen 4 i Ddeddf 2021.
(3) Y darpariaethau yw—
(a) adran 1 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad at Gyfarfodydd) 1960;
(b) Rhan 5A o Ddeddf 1972;
(c) Atodlen 12 i Ddeddf 1972.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Mawrth 2021