
2021 Rhif 353 (Cy. 105)
Tai, Cymru
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 18 Mawrth 2021
Yn dod i rym 19 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 160A(3) o Ddeddf Tai 1996 a pharagraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn unol ag adran 142(3)(b)(ii) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 19 Mawrth 2021.
Diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014
2 
Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygio rheoliad 3
3 
Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a) hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (f);
(b) hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (g);
(c) ar ddiwedd is-baragraff (h), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(d) ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—“
(i) Dosbarth I – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo.”.
Diwygio rheoliad 5
4 
Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—
(a) hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (g);
(b) hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (h);
(c) ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(d) ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—“
(j) “Dosbarth J – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo.”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Mawrth 2021