
2021 Rhif 351 (Cy. 103)
Clefydau Gwenyn, Cymru
Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 17 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 19 Mawrth 2021
Yn dod i rym 21 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 1 o Ddeddf Gwenyn 1980.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) (Diwygio) 2021 a daw i rym ar 21 Ebrill 2021.
Diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006
2 
Ar ôl erthygl 2 o Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006 mewnosoder—“
Adrodd am widdon Varroa (Varroosis)
2A. 
Rhaid i unrhyw berchennog neu’r person sy’n gyfrifol am gwch sy’n gwybod neu sy’n amau bod unrhyw rywogaeth o’r gwiddonyn Varroa yn bresennol yn y cwch adrodd am y ffaith honno i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021