
2021 Rhif 350 (Cy. 102)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021
Gwnaed 17 Mawrth 2021
Yn dod i rym 1 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 5(1), 13(1), 46(1) a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(2) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2021.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “asiant” (“agent”) yr ystyr a roddir yn adran 37 o Ddeddf 2014;
 mae “categori cofrestru” (“category of registration”) i’w ddehongli yn unol ag adran 9(3) o Ddeddf 2014;
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg y parhawyd â’i fodolaeth gan adran 2(1) o Ddeddf 2014;
 ystyr “cyn-berson cofrestredig” (“former registered person”) yw person y mae ei enw wedi ei ddileu o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor yn unol â’r Gorchymyn hwn;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
 ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir gan y Cyngor o dan adran 9 o Ddeddf 2014;
 ystyr “gorchymyn atal dros dro interim” (“interim suspension order”) yw mesur sy’n dileu dros dro berson cofrestredig o’r gofrestr tra bo ymchwiliad a gwrandawiad disgyblu yn mynd rhagddynt;
 mae i “gorchymyn disgyblu” (“disciplinary order”) yr ystyr a roddir yn adran 27(2) o Ddeddf 2014;
 ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) (yn ddarostyngedig i adran 27 o Ddeddf 2014) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr a sefydlwyd o dan adran 9 (gan gynnwys y rheini sydd wedi eu cofrestru ar sail dros dro) o Ddeddf 2014.
Gorchmynion atal dros dro interim
3 

(1) Caiff y Cyngor wneud gorchymyn atal dros dro interim mewn cysylltiad â pherson cofrestredig.
(2) Ni chaiff y Cyngor wneud gorchymyn atal dros dro interim o dan baragraff (1) oni bai ei fod wedi cynnull gwrandawiad i ystyried a yw’r gofynion ar gyfer gwneud gorchymyn atal dros dro interim wedi eu bodloni.
(3) Rhaid i’r Cyngor benodi unrhyw bersonau y mae’n ystyried eu bod yn briodol i banel er mwyn penderfynu gwrandawiad y mae’n ei gynnull o dan baragraff (2).
(4) Ni chaniateir gwneud gorchymyn atal dros dro interim o dan baragraff (1) ond—
(a) cyn i benderfyniad o ran pa un ai i wneud gorchymyn disgyblu ai peidio gael ei wneud, a
(b) os yw’r Cyngor yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud gorchymyn atal dros dro interim er budd y cyhoedd.
(5) Pan fo’r Cyngor yn gwneud gorchymyn atal dros dro interim o dan baragraff (1), rhaid iddo ddileu enw’r person cofrestredig o’r gofrestr y mae’n ei chynnal.
(6) Ni chaniateir i orchymyn atal dros dro interim gael effaith am gyfnod sy’n hwy na 18 mis (oni chaiff ei estyn gan yr Uchel Lys; gweler erthygl 17 (estyn gorchmynion atal dros dro interim gan yr Uchel Lys)).
(7) Ni chaniateir gwneud gorchymyn atal dros dro interim o dan baragraff (1) ond os yw yn unol—
(a) â’r Gorchymyn hwn, a
(b) â’r rheolau gweithredu a wneir gan y Cyngor o dan erthygl 18.
Hysbysiad o fwriad i wneud gorchymyn atal dros dro interim
4 

(1) Rhaid i’r Cyngor roi i’r person cofrestredig y mae’r gorchymyn atal dros dro interim arfaethedig yn ymwneud ag ef o leiaf 10 niwrnod gwaith o rybudd o’r bwriad i wneud y gorchymyn hwnnw.
(2) Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (1) roi gwybod i’r person cofrestredig—
(a) am natur yr honiadau yn ei erbyn, a
(b) am ei hawliau o dan erthygl 5.
Hawlogaeth i ymddangos a chyflwyno sylwadau
5 
Mewn cysylltiad â gwrandawiad a gynullir gan y Cyngor y rhoddir ystyriaeth ynddo i wneud gorchymyn atal dros dro interim mewn cysylltiad â pherson cofrestredig, mae hawlogaeth gan y person hwnnw—
(a) i gyflwyno sylwadau cyn y gwrandawiad (pa un a yw’r person yn mynd i’r gwrandawiad ai peidio),
(b) i ymddangos gerbron y gwrandawiad,
(c) i gyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad,
(d) i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn y gwrandawiad, ac
(e) i gael ei gynrychioli ac i gael ei hebrwng, gan unrhyw berson neu bersonau a ddymuna, yn y gwrandawiad.
Cynnwys gorchymyn atal dros dro interim
6 
Rhaid i orchymyn atal dros dro interim gofnodi—
(a) penderfyniad y Cyngor,
(b) y dyddiad y gwneir y gorchymyn, ac
(c) y dyddiad y mae’r gorchymyn yn cymryd effaith.
Y dyddiad y mae gorchymyn atal dros dro interim yn cymryd effaith
7 
Mae gorchymyn atal dros dro interim yn cymryd effaith ar y dyddiad y cyflwynir hysbysiad ohono i’r person y mae’n cael ei wneud mewn perthynas ag ef ac eithrio pan fo’r Cyngor yn penderfynu fel arall ac yn yr achos hwnnw bydd yn cymryd effaith ar y dyddiad a nodir yn y gorchymyn.
Hysbysiad bod gorchymyn atal dros dro interim wedi ei wneud
8 

(1) Rhaid i’r Cyngor gyflwyno hysbysiad o’r gorchymyn atal dros dro interim i’r person y mae’n cael ei wneud mewn perthynas ag ef o fewn 3 diwrnod gwaith i’r dyddiad y gwneir y gorchymyn.
(2) Rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) testun y gorchymyn,
(b) disgrifiad o effaith y gorchymyn,
(c) rhesymau’r Cyngor dros wneud y gorchymyn, a
(d) esboniad o hawl y person cofrestredig i ofyn bod y Cyngor yn cynnull gwrandawiad i adolygu’r gorchymyn yn unol ag erthygl 12.
(3) Rhaid i’r Cyngor gyflwyno hysbysiad o’r gorchymyn i gyflogwr neu gyflogwyr presennol neu gyflogwr neu gyflogwyr diwethaf y person cofrestredig a, phan fo’n berthnasol, yr asiant neu’r asiantau.
Hawl i ofyn am wrandawiad cyhoeddus
9 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y panel drafod yn breifat ar unrhyw adeg ac at unrhyw ddiben yn ystod neu ar ôl gwrandawiad.
(2) Caiff person cofrestredig neu gyn-berson cofrestredig y mae’r gorchymyn atal dros dro interim arfaethedig yn ymwneud ag ef ofyn bod unrhyw wrandawiad yn unol ag erthygl 3 neu 12 yn cael ei gynnal yn gyhoeddus.
(3) Pan fo person cofrestredig neu gyn-berson cofrestredig yn gofyn bod y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn gyhoeddus, caiff y panel eithrio’r cyhoedd o wrandawiad neu unrhyw ran o wrandawiad—
(a) pan fo’n ymddangos i’r panel ei bod yn angenrheidiol eithrio’r cyhoedd er budd cyfiawnder, neu
(b) pan fo’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn buddiannau plant.
Apelau
10 

(1) Caiff cyn-berson cofrestredig y mae gorchymyn atal dros dro interim wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef apelio yn erbyn y gorchymyn i’r Uchel Lys.
(2) Rhaid i apêl o dan baragraff (1) gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir hysbysiad o’r gorchymyn i’r cyn-berson cofrestredig.
(3) Mewn cysylltiad ag apêl o’r fath, caiff yr Uchel Lys—
(a) dirymu’r gorchymyn atal dros dro interim;
(b) amrywio’r cyfnod y mae’r gorchymyn atal dros dro interim i gael effaith ar ei gyfer;
(c) peidio â gwneud unrhyw newid i’r gorchymyn atal dros dro interim.
(4) Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn derfynol ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn.
Dirymu gorchymyn atal dros dro interim
11 
Mae gorchymyn atal dros dro interim yn peidio â chael effaith—
(a) os yw’r Cyngor, cyn cynnal ymchwiliad yn unol ag adran 26(1) o Ddeddf 2014, yn penderfynu nad oes achos i’w ateb mewn perthynas â’r gorchymyn atal dros dro interim arfaethedig,
(b) os yw’r Cyngor yn peidio â pharhau ag ymchwiliad yn unol ag adran 26(3)(a) neu (c) o Ddeddf 2014 i’r ymddygiad sy’n destun y gorchymyn atal dros dro interim,
(c) os yw’r Cyngor wedi gwneud penderfyniad o ran pa un ai i osod gorchymyn disgyblu ai peidio, neu
(d) os yw’r Cyngor, yn dilyn adolygiad yn unol ag erthygl 12, yn penderfynu bod y gorchymyn atal dros dro interim a wnaed o dan erthygl 3 i’w ddirymu.
Cais am adolygiad o orchymyn atal dros dro interim
12 

(1) Caiff cyn-berson cofrestredig ofyn i’r Cyngor adolygu gorchymyn atal dros dro interim sy’n ymwneud â’r person hwnnw—
(a) cyn i 6 mis ddod i ben o’r dyddiad—
(i) y gwnaed y gorchymyn atal dros dro interim, neu
(ii) yr estynnodd yr Uchel Lys, neu yr estynnodd yr Uchel Lys ymhellach, y gorchymyn atal dros dro interim o dan erthygl 17(2)(b);
(b) wedi hynny cyn i gyfnod dilynol o 6 mis ddod i ben;
(c) ar unrhyw adeg os daw tystiolaeth newydd ar gael sy’n berthnasol i’r achos neu os oes newid sylweddol mewn amgylchiadau ers i’r gorchymyn atal dros dro interim gael ei wneud.
(2) Pan fo cyn-berson cofrestredig yn gofyn o dan baragraff (1) i’r Cyngor adolygu’r gorchymyn atal dros dro interim, rhaid i’r Cyngor gynnull gwrandawiad i ystyried yr achos—
(a) cyn i’r cyfnod o 6 mis ddod i ben o’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn, pan fo paragraff (1)(a) yn gymwys,
(b) cyn i’r cyfnod o 6 mis ddod i ben o ddyddiad yr adolygiad diwethaf, pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, ac
(c) o fewn 10 niwrnod gwaith i gael y cais, pan fo paragraff (1)(c) yn gymwys.
(3) Pan fo gorchymyn atal dros dro interim a wnaed o dan erthygl 3 wedi bod yn destun apêl o dan erthygl 10, mae unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (1) neu (2) at y dyddiad y gwnaed y gorchymyn i’w ddarllen fel cyfeiriad at ddyddiad penderfyniad yr Uchel Lys o dan erthygl 10.
(4) Ni chaiff y Cyngor adolygu gorchymyn atal dros dro interim ond yn unol—
(a) â’r Gorchymyn hwn, a
(b) â’r rheolau gweithredu a wneir gan y Cyngor o dan erthygl 18.
Gwybodaeth i’w chynnwys gyda chais am adolygiad
13 
Rhaid i gais am adolygiad yn unol ag erthygl 12—
(a) cael ei wneud yn ysgrifenedig,
(b) pennu’r sail y mae’r cyn-berson cofrestredig yn ceisio i’r gorchymyn atal dros dro interim gael ei adolygu arni, ac
(c) cynnwys pob dogfen y dibynnir arni i gefnogi’r cais.
Hawlogaeth i ymddangos a chyflwyno sylwadau
14 
Mewn cysylltiad ag unrhyw wrandawiad a gynullir gan y Cyngor yn unol ag erthygl 12(2), mae hawlogaeth gan gyn-berson cofrestredig y mae’r gorchymyn atal dros dro interim yn ymwneud ag ef—
(a) i gyflwyno sylwadau cyn y gwrandawiad (pa un a yw’r person yn mynd i’r gwrandawiad ai peidio),
(b) i ymddangos gerbron y gwrandawiad,
(c) i gyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad,
(d) i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn y gwrandawiad neu cyn y gwrandawiad, ac
(e) i gael ei hebrwng ac i gael ei gynrychioli, gan unrhyw berson neu bersonau a ddymuna, yn y gwrandawiad.
Hysbysiad o benderfyniad yn dilyn adolygiad o orchymyn atal dros dro interim
15 
Rhaid i’r Cyngor gyflwyno hysbysiad i’r cyn-berson cofrestredig o unrhyw benderfyniad a wneir yn dilyn adolygiad a gynhelir o dan erthygl 12, a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, o fewn 3 diwrnod gwaith i wneud y penderfyniad hwnnw.
Adolygiad gan y Cyngor
16 

(1) Er gwaethaf erthygl 12, rhaid i’r Cyngor gadw gorchymyn atal dros dro interim o dan adolygiad fesul pa ysbeidiau bynnag y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(2) Rhaid i adolygiad yn unol â pharagraff (1) gael ei gynnal yn unol â’r rheolau gweithredu a wneir gan y Cyngor o dan erthygl 18.
(3) Yn dilyn adolygiad yn unol â pharagraff (1), caiff y Cyngor—
(a) dirymu’r gorchymyn atal dros dro interim,
(b) peidio â gwneud unrhyw newid i’r gorchymyn atal dros dro interim, neu
(c) gwneud cais i’r Uchel Lys am estyniad yn unol ag erthygl 17 os oes gofyniad i wneud hynny.
Estyn gorchmynion atal dros dro interim gan yr Uchel Lys
17 

(1) Os yw’r Cyngor yn ystyried y dylid estyn gorchymyn atal dros dro interim y tu hwnt i 18 mis, rhaid iddo wneud cais i’r Uchel Lys.
(2) Ar gais, caiff yr Uchel Lys—
(a) dirymu’r gorchymyn atal dros dro interim,
(b) estyn, neu estyn ymhellach, y gorchymyn atal dros dro interim am hyd at 12 mis, neu
(c) peidio â gwneud unrhyw newid i’r gorchymyn nac i’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer.
(3) Yn yr erthygl hon, mae cyfeiriad at orchymyn atal dros dro interim yn cynnwys cyfeiriad at orchymyn atal dros dro interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach.
Darpariaeth arall ynghylch y weithdrefn i’w gwneud gan y Cyngor
18 

(1) Caiff y Cyngor, fel y gwêl yn addas, wneud unrhyw ddarpariaeth arall o ran y weithdrefn iddo ei dilyn mewn cysylltiad—
(a) â phenderfyniadau i osod neu i beidio â gosod gorchymyn atal dros dro interim,
(b) ag ystyried gosod gorchymyn atal dros dro interim, neu
(c) ag adolygu, estyn a dirymu gorchymyn atal dros dro interim.
(2) Caiff y Cyngor ddiwygio o bryd i’w gilydd unrhyw reolau gweithredu a wneir yn unol â’r erthygl hon.
Cyhoeddi a darparu copïau o ddogfennau
19 

(1) Rhaid i’r Cyngor gyhoeddi unrhyw reolau gweithredu a wneir o dan erthygl 18—
(a) ar wefan y mae’n ei chynnal ar y rhyngrwyd, a
(b) mewn unrhyw fodd arall y gwêl ei fod yn addas.
(2) Rhaid i’r Cyngor, pan fydd unrhyw berson yn gofyn iddo wneud hynny, ddarparu copi o unrhyw reolau gweithredu a wneir o dan erthygl 18 i’r person hwnnw.
Cyflwyno hysbysiadau
20 

(1) Caniateir cyflwyno hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson o dan y Gorchymyn hwn drwy—
(a) ei ddanfon at y person hwnnw yn bersonol,
(b) y post i’r cyfeiriad a roddwyd i’r Cyngor gan y person neu os nad oes unrhyw hysbysiad o’r fath i’w gyfeiriad hysbys diwethaf, neu
(c) post electronig, pan fo’r person hwnnw yn gofyn am hynny.
(2) Bernir bod hysbysiad a gyflwynir yn unol â’r erthygl hon wedi ei gyflwyno oni ddangosir i’r gwrthwyneb—
(a) yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(a), ar y diwrnod y cafodd ei ddanfon,
(b) yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(b), ar y diwrnod gwaith nesaf, ac
(c) yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(c), ar y diwrnod y cafodd ei anfon.
Kirsty William
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021