
2021 Rhif 349 (Cy. 101)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021
Gwnaed 17 Mawrth 2021
Yn dod i rym 1 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 12(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, a’r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan adran 58 o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol â pharagraff 35(3) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2021.
Diwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
2 

(1) Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 12(1) (cyrff llywodraeth leol yng Nghymru), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(ba) a corporate joint committee;”.
(3) Yn adran 25 (y weithdrefn ar gyfer ystyried adroddiadau ac argymhellion), ar ôl is-adran (8) mewnosoder—“
(8A) Where a duty imposed on a body by this section is imposed on a corporate joint committee, the duty may not be discharged on behalf of the corporate joint committee by—
(a) a sub-committee of the corporate joint committee, or
(b) any other person.”
(4) Yn adran 59 (dehongli Rhan 2), ar ôl is-adran (8) mewnosoder—“
(9) “Corporate joint committee” means a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.”
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021