
2021 Rhif 347 (Cy. 100)
Cydraddoldeb, Cymru
Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021
Gwnaed 17 Mawrth 2021
Yn dod i rym 1 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 151(2) a 207(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Yn unol ag adran 209(2) a (3)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i gymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Cyn gwneud y Gorchymyn hwn, yn unol ag adran 152(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021 a daw i rym ar 1 Ebrill 2021.
Diwygio Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010
2 
Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol), o dan y pennawd “Local government”, yn y lle priodol mewnosoder—“A corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.”
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021