
2021 Rhif 344 (Cy. 98)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 17 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 18 Mawrth 2021
Yn dod i rym 8 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 39(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol yng Nghymru y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn ymwneud â hyn a’r cyrff o gyfrifwyr hynny y mae’n ymddangos iddynt ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2021.
Diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014
2 

(1) Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3)(e) (cymhwyso), yn lle “ac 20” rhodder “, 20 ac 20A”.
(3) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) ar ôl y diffiniad o “Deddf 2004” mewnosoder—“
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”
(b) ar ôl y diffiniad o “cyd-bwyllgor” mewnosoder—“
 ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;”
(c) yn y diffiniad o “cyd-bwyllgor”, ar ôl “lleol” mewnosoder “ond nid yw’n cynnwys cyd-bwyllgor corfforedig”;
(d) yn y diffiniad o “corff perthnasol llai”, o flaen paragraff (i) mewnosoder—“
(zi) cyd-bwyllgor corfforedig;”.
(4) Yn rheoliad 10 (llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi cyfrifon cyrff mwy), ar ôl paragraff (8) mewnosoder—“
(9) Wrth ei gymhwyso i gyd-bwyllgor corfforedig, mae paragraff (2) i’w ddarllen fel pe bai’r cyfeiriadau at “pwyllgor” yn gyfeiriadau at “is-bwyllgor”.”
(5) Ar ôl rheoliad 20 mewnosoder—“
Cyd-bwyllgorau corfforedig
20A. 

(1) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig adneuo gyda phob awdurdod cyfansoddol—
(a) pan fo’n gorff perthnasol llai, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod a bennir gan reoliad 18, gopi o adroddiad yr archwilydd a’r datganiadau cyfrifyddu; a
(b) fel arall, wrth roi hysbysiad o dan reoliad 13, gopi o adroddiad yr archwilydd a’r datganiad o gyfrifon.
(2) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “awdurdod cyfansoddol”, mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig, yw—
(i) cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, y mae ei brif aelod gweithrediaeth yn aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig;
(ii) Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig;
(b) mae i “prif aelod gweithrediaeth” yr ystyr a roddir gan adran 77(4) o Ddeddf 2021.”
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021