
2021 Rhif 340 (Cy. 94)
Tai, Cymru
Gorchymyn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (Estyn y Cyfnod Adolygu) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Gwnaed 17 Mawrth 2021
Yn dod i rym 18 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 101(4) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn unol ag adran 142(3)(c) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (Estyn y Cyfnod Adolygu) (Cymru) (Coronafeirws) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 18 Mawrth 2021.
Diwygio adran 101(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014
2 

(1) Mae adran 101(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (b) rhodder—“
(b) y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y daeth y cyfnod ym mharagraff (a) i ben, a phob cyfnod dilynol o 5 mlynedd sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y daeth y cyfnod adolygu blaenorol i ben.”
Jane Hutt
Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip o dan awdurdod Gweinidogion Cymru
17 Mawrth 2021