
2021 Rhif 338 (Cy. 92)
Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 17 Mawrth 2021
Yn dod i rym 19 Mawrth 2021

Yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru—
(a) wedi eu bodloni bod pob targed allyriadau interim yn cael ei osod ar lefel sy’n gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050, yn unol ag adran 32(1)(a) o’r Ddeddf,
(b) wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf, ac
(c) wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.
Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi argymell diwygio’r targedau allyriadau interim ar gyfer 2030 a 2040.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 30(1) o’r Ddeddf, ac yn unol ag adran 32(2)(b) o’r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Mawrth 2021.
Diwygio’r targedau allyriadau interim
2 

(1) Mae rheoliad 2 o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2), yn lle “45%” rhodder “63%”.
(3) Ym mharagraff (3), yn lle “67%” rhodder “89%”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021