
2021 Rhif 335 (Cy. 90)
Y Gyfraith Gyfansoddiadol
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 4.13 p.m. ar 17 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.55 p.m. ar 17 Mawrth 2021
Yn dod i rym 18 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 13(1) a (2) a 157(2)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel y’i hestynnir gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Yn unol ag adran 12(3) o Ddeddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021, gosodwyd yr offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad o fewn 28 o ddiwrnodau iddo gael ei wneud.

Yn unol ag adran 7(1) a (2)(f) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol cyn iddo gael ei wneud.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir..
(3) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys ond i etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd sy’n digwydd yn 2021.
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “etholiad 2021” (“the 2021 election”) yw etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd y bwriedir i’r pôl ar ei gyfer gael ei gynnal yn 2021;
 ystyr “Gorchymyn 2007” (“the 2007 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007.
Diwygio Gorchymyn 2007
2 
Mae Gorchymyn 2007 wedi ei ddiwygio yn unol â Rhannau 2 a 3.
RHAN 2 Danfon papurau enwebu
3 
Yn rheol 1(1) (amserlen ar gyfer cynnal trafodion mewn etholiad i’r Senedd) o Atodlen 5, yng ngholofn y tabl â’r pennawd “Time”, yn y cofnod sy’n cyfateb i’r cofnod “Delivery of nomination papers.”, ym mrawddeg gyntaf y golofn honno, ar ôl “notice of election but not later than” mewnosoder “4 in the afternoon on”.
RHAN 3 Ffurflen cyfeiriad cartref
4 
Yn erthygl 2(1) (dehongli), yn y lle priodol, mewnosoder—“
 “UK Parliamentary constituency” means a constituency specified in an Order in Council made under section 4 of the Parliamentary Constituencies Act 1986.”
5 

(1) Mae Atodlen 5 (Rheolau Etholiadau’r Senedd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheol 4(4B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.
(3) Yn rheol 6(4B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.
(4) Yn rheol 7(6B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.
6 
Yn Atodlen 10 (Atodiad ffurflenni), yn Rhan 2 o ffurflen CZ, ar ôl “etholaeth Senedd Cymru” mewnosoder “neu, os yw’r ymgeisydd yn preswylio y tu allan i Gymru, etholaeth Senedd y DU”.
Mark Drakeford
Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru
Am 4.13 p.m. ar 17 Mawrth 2021