
2021 Rhif 334 (Cy. 89)
Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021
Gwnaed 17 Mawrth 2021
Yn dod i rym 19 Mawrth 2021

Yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 33(4) o’r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Mawrth 2021.
Terfyn unedau carbon
2 
Y terfyn ar swm yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru am y cyfnod cyllidebol 2021-2025 yw 0% o’r gyllideb garbon.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021