
2021 Rhif 333 (Cy. 88)
Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru
Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021
Gwnaed 17 Mawrth 2021
Yn dod i rym 19 Mawrth 2021

Yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru—
(a) wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf, a
(b) wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.
Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi argymell newid targed allyriadau 2050.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 29(3) o’r Ddeddf, ac yn unol ag adran 32(2)(b) o’r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Mawrth 2021.
Diwygio targed allyriadau 2050
2 
Yn adran 29(1) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn lle “80%” rhodder “100%”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021