
2021 Rhif 332 (Cy. 87)
Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 17 Mawrth 2021
Yn dod i rym 19 Mawrth 2021

Yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru—
(a) wedi eu bodloni bod pob cyllideb garbon yn cael ei gosod ar lefel sy’n gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050 a’r targed allyriadau interim ar gyfer unrhyw flwyddyn darged interim sydd o fewn y cyfnod cyllidebol hwnnw neu’n dod ar ei ôl, yn unol ag adran 32(1)(b) o’r Ddeddf,
(b) wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf, ac
(c) wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.
Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi argymell diwygio’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2021-2025, a gosod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2026-2030.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 31(1) o’r Ddeddf, ac yn unol ag adran 32(2)(b) o’r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Mawrth 2021.
Diwygio’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2021 i 2025
2 
Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018, yn lle “33%” rhodder “37%”.
Y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2026 i 2030
3 
Mae’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2026-2030 wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 58% yn is na’r waelodlin.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021