
2021 Rhif 327 (Cy. 85)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021
Gwnaed 17 Mawrth 2021
Yn dod i rym 1 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 83(2), 84 a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau yma gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4) a (5)(k) ac (l) o’r Ddeddf ac fe’u cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “aelod” (“member”) yw person a benodwyd i gyd-bwyllgor corfforedig o dan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;
 ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;
 ystyr “cyfranogwr cyfetholedig” (“co-opted participant”) yw person sydd wedi ei gyfethol gan aelodau’r cyngor i gymryd rhan yng ngweithgarwch cyd-bwyllgor corfforedig;
 ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”), mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig, yw’r prif gyngor ar gyfer prif ardal yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig;
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 (dsc 1);
 mae i “prif aelod gweithrediaeth” (“senior executive member”) yr ystyr a roddir gan adran 77(4) o Ddeddf 2021;
 mae i “prif ardal” (“principal area”) yr ystyr a roddir gan adran 68 o Ddeddf 2021;
 mae i “prif gyngor” (“principal council”) yr ystyr a roddir yn adran 171(1) o Ddeddf 2021.
(2) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ardal cyd-bwyllgor corfforedig yn gyfeiriadau at yr ardal sy’n ffurfio—
(a) prif ardaloedd y prif gynghorau a oedd wedi gwneud cais cyd-bwyllgor o dan adran 72(1) o Ddeddf 2021, neu
(b) y prif ardaloedd a bennwyd mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 74(1) o’r Ddeddf honno.
RHAN 1 Safonau ymddygiad
Ymddygiad aelodau, cyfranogwyr cyfetholedig a chyflogeion cyd-bwyllgor corfforedig
3 
Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y safonau ymddygiad sy’n gymwys mewn perthynas ag aelodau, cyfranogwyr cyfetholedig a chyflogeion cyd-bwyllgorau corfforedig.
RHAN 2 Cyllid a chyfrifon
Cyllid a chyfrifon
4 
Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyllid a chyfrifon cyd-bwyllgorau corfforedig.
RHAN 3 Diwygiadau cyffredinol
Diwygiadau cyffredinol sy’n ymwneud â statws cyd-bwyllgor corfforedig
5 
Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfiadau eraill sy’n ymwneud â statws cyd-bwyllgor corfforedig fel corff cyhoeddus.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021
ATODLEN 1
Safonau ymddygiad
Rheoliad 3
Cymhwyso cod ymddygiad awdurdod perthnasol i aelodau a chyfranogwyr cyfetholedig
1 

(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys i berson—
(a) sydd—
(i) yn aelod, neu
(ii) yn gyfranogwyr cyfetholedig,
o gyd-bwyllgor corfforedig, a
(b) sydd—
(i) yn aelod, neu
(ii) yn aelod cyfetholedig,
o awdurdod perthnasol.
(2) At ddibenion cod ymddygiad yr awdurdod perthnasol, mae person y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei benodi gan yr awdurdod perthnasol i wasanaethu ar y cyd-bwyllgor corfforedig.
(3) Pan fo’n ofynnol, yn rhinwedd is-baragraff (2), i berson y mae’r is-baragraff hwnnw yn gymwys iddo, i’r graddau y mae’n gweithredu ar ran y cyd-bwyllgor corfforedig, i gydymffurfio â’r cod ymddygiad enghreifftiol (“y cod”), mae is-baragraffau (4) a (5) yn gymwys.
(4) Mae cyfeiriadau at “awdurdod” person yn Rhan 3 o’r cod i’w darllen fel cyfeiriadau at y cyd-bwyllgor corfforedig y mae’r person yn gweithredu ar ei ran.
(5) Rhaid i berson gofrestru unrhyw fuddiant personol sydd ganddo ym musnes y cyd-bwyllgor corfforedig yng nghofrestr buddiannau aelodau ei awdurdod perthnasol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddog monitro’r awdurdod.
Cymhwyso cod ymddygiad awdurdod i gyflogeion
2 

(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys oni bai—
(a) bod darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b) bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.
(2) Mae Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001 (“Gorchymyn 2001”) yn gymwys i gyflogai cyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i gyflogai awdurdod perthnasol.
(3) Yng Ngorchymyn 2001, fel y mae’n gymwys yn rhinwedd is-baragraff (2), mae cyfeiriad at awdurdod cyflogai i’w ddarllen fel cyfeiriad at gyd-bwyllgor corfforedig cyflogai.
Dehongli Atodlen 1
3 
Yn yr Atodlen hon—
(a) mae cyfeiriadau at “Deddf 2000” yn gyfeiriadau at Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
(b) mae cyfeiriadau at y “cod ymddygiad enghreifftiol” yn gyfeiriadau at y cod ymddygiad enghreifftiol a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008;
(c) ystyr “cod ymddygiad” yw’r cod ymddygiad a fabwysiadwyd gan awdurdod perthnasol o dan adran 51 o Ddeddf 2000;
(d) mae i “aelod cyfetholedig” yr ystyr a roddir i “co-opted member” gan adran 49 o Ddeddf 2000;
(e) mae i “awdurdod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant authority” gan adran 49 o Ddeddf 2000.
ATODLEN 2
Cyllid a chyfrifon
Rheoliad 4
Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003
1 
Yn adran 23 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (ystyr “local authority” (“awdurdod lleol”)), ar ôl is-adran (10) mewnosoder—“
(11) This Part applies in relation to a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 as it applies in relation to a local authority.”
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003
2 
Yn rheoliad 1(4) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (dehongli), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “Regulations” mewnosoder “and includes a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 in so far as Part 1 of the Local Government Act 2003 applies to corporate joint committees by virtue of section 23(11) of the 2003 Act”.
ATODLEN 3
Diwygiadau cyffredinol
Rheoliad 5
Diwygio Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970
1 
Yn adran 1(4) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 (cyflenwi nwyddau a gwasanaethau gan awdurdodau lleol), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “any joint authority established by Part VI of the Local Government Act 1985,” mewnosoder “any corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021,”.
Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010
2 
Yn adran 59(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ar ôl paragraff (j) mewnosoder—“
(ja) a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;”.
Diwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017
3 
Ym mharagraff 1(4) o Atodlen 20 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(da) cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.