
2021 Rhif 316 (Cy. 81)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021
Gwnaed 15 Mawrth 2021
Yn dod i rym 22 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 88(1) o Ddeddf y Coronafeirws 2020, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr amodau a bennir yn adran 88(9) o’r Ddeddf honno wedi eu bodloni mewn perthynas â’r darpariaethau a atelir dros dro gan y Rheoliadau hyn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Mawrth 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2020” yw Deddf y Coronafeirws 2020.
Atal dros dro addasiadau o dan Ddeddf 2020 mewn perthynas â dyletswyddau penodol awdurdodau lleol
2 
Mae gweithrediad y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2020 wedi ei atal dros dro—
(a) Rhan 2 o Atodlen 12 (pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru);
(b) adran 15 (gofal a chymorth gan awdurdodau lleol), i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 12.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Mawrth 2021