
2021 Rhif 315 (Cy. 80)
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Gorchymyn Senedd Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2021
Gwnaed 12 Mawrth 2021
Yn dod i rym 19 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan erthygl 23(1D), (2) a (6) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Senedd Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Mawrth 2021.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
 mae “etholaethau’r Senedd” (“Senedd constituencies”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
 mae “rhanbarthau etholiadol y Senedd” (“Senedd electoral regions”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2016 wedi ei ddirymu.
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir
4 
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf y caiff swyddog canlyniadau etholaethol ei adennill am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, yw’r swm a restrir yng ngholofn 4 o’r tabl yn Atodlen 1.
Y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau a ddarperir mewn etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir
5 

(1) Ni chaiff y cyfanswm y caiff swyddog canlyniadau etholaethol ei adennill am wasanaethau a ddarperir ar gyfer etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, fod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob etholaeth yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i unrhyw wasanaethau a ddarperir fod ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a) gwneud trefniadau ar gyfer yr etholiad;
(b) cynnal yr etholiad;
(c) cyflawni holl ddyletswyddau’r swyddog canlyniadau etholaethol a’r gweinyddwr etholiadol mewn cysylltiad â’r etholiad.
Y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau yr eir iddynt mewn etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir
6 

(1) Ni chaiff y cyfanswm y caiff swyddog canlyniadau etholaethol ei adennill am dreuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, fod yn fwy na’r canlynol—
(a) swm cyfanredol colofn 3(a) a (b) yn y tabl yn Atodlen 1;
(b) mewn cysylltiad â threuliau safonol yn unig, y cyfanswm yng ngholofn 3(a) yn y tabl yn Atodlen 1;
(c) mewn cysylltiad â threuliau’r coronafeirws yn unig, y cyfanswm yng ngholofn 3(b) yn y tabl yn Atodlen 1.
(2) Caiff swyddog canlyniadau adennill treuliau safonol yr eir iddynt ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a) penodi a thalu personau i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaethol;
(b) treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos y swyddog canlyniadau etholaethol ac unrhyw berson a benodir i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaethol;
(c) costau’r broses enwebu;
(d) argraffu neu gynhyrchu fel arall y papurau pleidleisio;
(e) argraffu neu gynhyrchu fel arall neu brynu deunyddiau pleidleisio drwy’r post;
(f) argraffu neu gynhyrchu fel arall gardiau pleidleisio, a threfnu i’w dosbarthu;
(g) argraffu neu gynhyrchu fel arall yr holl hysbysiadau a dogfennau etholiad, a’u cyhoeddi;
(h) rhentu, gwresogi, goleuo, glanhau, addasu neu adfer unrhyw adeilad neu ystafell;
(i) darparu a chludo cyfarpar;
(j) darparu cyfarpar a meddalwedd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a chostau cysylltiedig;
(k) darparu diogelwch, gan gynnwys storio blychau pleidleisio, papurau pleidleisio a dogfennau gwirio yn ddiogel;
(l) cynnal y gwirio a’r cyfrif;
(m) darparu a chael hyfforddiant;
(n) darparu deunyddiau ysgrifennu a thalu costau postio, ffonio, argraffu, cyfieithu a bancio a chostau eitemau amrywiol eraill.
(3) Caiff swyddog canlyniadau adennill treuliau yr eir iddynt o ganlyniad i’r angen i gydymffurfio â deddfiad sy’n ymwneud â’r coronafeirws neu i ddilyn canllawiau sy’n ymwneud â’r coronafeirws a ddyroddir gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys—
(a) penodi a thalu personau i gynorthwyo i orfodi rheoliadau’r coronafeirws;
(b) argraffu neu gynhyrchu fel arall arwyddion sy’n ymwneud â’r coronafeirws;
(c) cyfarpar diogelu personol ar gyfer personau sy’n cynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaethol a’r gweinyddwyr etholiadol;
(d) cynhyrchion glanhau ychwanegol yn yr orsaf bleidleisio a lleoliadau cyfrif;
(e) costau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag angen i estyn y cyfnod dilysu a chyfrif oherwydd mesurau’r coronafeirws;
(f) hyfforddiant ar reoliadau’r coronafeirws.
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir
7 
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol ei adennill am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, yw’r swm a restrir yng ngholofn 4 o’r tabl yn Atodlen 2.
Y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau a ddarperir mewn etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir
8 

(1) Ni chaiff y cyfanswm y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol ei adennill am wasanaethau a ddarperir ar gyfer etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, fod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob rhanbarth yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 2.
(2) Rhaid i unrhyw wasanaethau a ddarperir fod ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a) gwneud trefniadau ar gyfer yr etholiad;
(b) cynnal yr etholiad;
(c) cyflawni holl ddyletswyddau’r swyddog canlyniadau rhanbarthol a’r gweinyddwr etholiadol mewn cysylltiad â’r etholiad.
Y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau yr eir iddynt mewn etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir
9 

(1) Ni chaiff y cyfanswm y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol ei adennill am dreuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, fod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob rhanbarth yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2.
(2) Rhaid i unrhyw dreuliau yr eir iddynt fod ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a) penodi a thalu personau i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau rhanbarthol;
(b) treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos y swyddog canlyniadau rhanbarthol ac unrhyw berson a benodir i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau rhanbarthol;
(c) costau’r broses enwebu;
(d) argraffu neu gynhyrchu fel arall hysbysiadau etholiad, a’u cyhoeddi;
(e) argraffu neu gynhyrchu fel arall y papurau pleidleisio;
(f) darparu deunyddiau ysgrifennu a thalu costau postio, ffonio, argraffu, cyfieithu a bancio a chostau eitemau amrywiol eraill.
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad etholaethol i’r Senedd nas ymleddir
10 
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf y caiff swyddog canlyniadau etholaethol ei adennill am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad etholaethol i’r Senedd nas ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, yw £2,000.00 (dwy fil o bunnoedd).
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy mewn etholiad rhanbarthol i’r Senedd nas ymleddir
11 
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol ei adennill am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt mewn etholiad rhanbarthol i’r Senedd nas ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, yw £500.00 (pum can punt).
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2021
ATODLEN 1
Y cyfansymiau sy’n adenilladwy am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt mewn etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir
Erthyglau 4, 5 a 6


1.Etholaeth y Senedd 2.Y cyfanswm am wasanaethau a ddarperir gan weinyddwyr etholiadol 3.Y cyfanswm am dreuliau yr eir iddynt 4.Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy
(a)Treuliau safonol (b)Treuliau sy’n ymwneud â’r coronafeirws 
Aberafan £5,500 £89,802 £34,280 £129,582
Aberconwy £5,500 £84,494 £25,469 £115,463
Alun a Glannau Dyfrdwy £5,500 £92,571 £28,577 £126,648
Arfon £5,500 £72,411 £30,241 £108,152
Blaenau Gwent £8,500 £96,844 £43,264 £148,608
Bro Morgannwg £8,500 £179,906 £57,551 £245,957
Brycheiniog a Sir Faesyfed £5,500 £115,649 £54,345 £175,494
Caerffili £5,500 £90,619 £40,342 £136,461
Canol Caerdydd £4,000 £104,942 £32,114 £141,056
Castell-nedd £5,500 £95,552 £38,075 £139,127
Ceredigion £8,500 £96,167 £44,117 £148,784
Cwm Cynon £4,500 £69,232 £29,003 £102,735
De Caerdydd a Phenarth £4,000 £133,772 £46,037 £183,809
De Clwyd £5,500 £88,334 £35,973 £129,807
Delyn £5,500 £94,692 £34,769 £134,961
Dwyfor Meirionnydd £5,500 £85,181 £47,618 £138,299
Dwyrain Abertawe £4,500 £82,483 £29,868 £116,851
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr £5,500 £128,952 £52,915 £187,367
Dwyrain Casnewydd £5,500 £76,472 £31,567 £113,539
Dyffryn Clwyd £8,500 £100,859 £27,566 £136,925
Gogledd Caerdydd £4,000 £116,467 £36,027 £156,494
Gorllewin Abertawe £4,500 £89,047 £28,685 £122,232
Gorllewin Caerdydd £4,000 £113,014 £37,061 £154,075
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro £5,500 £127,483 £46,788 £179,771
Gorllewin Casnewydd £5,500 £85,721 £34,332 £125,553
Gorllewin Clwyd £5,500 £108,212 £39,801 £153,513
Gŵyr £4,500 £86,872 £33,987 £125,359
Islwyn £5,500 £82,158 £36,736 £124,394
Llanelli £5,500 £117,654 £41,205 £164,359
Merthyr Tudful a Rhymni £8,500 £106,517 £47,452 £162,469
Mynwy £8,500 £119,225 £52,863 £180,588
Ogwr £5,500 £96,521 £31,272 £133,293
Pen-y-bont ar Ogwr £5,500 £101,849 £23,525 £130,874
Pontypridd £4,500 £81,640 £33,924 £120,064
Preseli Sir Benfro £5,500 £127,309 £48,611 £181,420
Rhondda £4,500 £78,287 £34,049 £116,836
Sir Drefaldwyn £5,500 £75,890 £38,869 £120,259
Torfaen £8,500 £103,341 £44,374 £156,215
Wrecsam £5,500 £75,840 £24,604 £105,944
Ynys Môn £8,500 £95,849 £40,405 £144,754
ATODLEN 2
Y cyfanswm sy’n adenilladwy am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt mewn etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir
Erthyglau 7, 8 a 9


1.Rhanbarth Etholiadol y Senedd 2.Y cyfanswm am wasanaethau a ddarperir gan weinyddwyr etholiadol 3.Y cyfanswm am dreuliau yr eir iddynt 4.Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy
Canol De Cymru £2,500 £20,665 £23,165
Canolbarth a Gorllewin Cymru £2,500 £17,528 £20,028
Dwyrain De Cymru £2,500 £19,084 £21,584
Gogledd Cymru £2,500 £18,795 £21,295
Gorllewin De Cymru £2,500 £16,364 £18,864