
2021 Rhif 302 (Cy. 76)
Iechyd Planhigion, Cymru
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 12 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Mawrth 2021
Yn dod i rym 8 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 22(2) a 144(6) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion (“y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag Erthygl 144(7) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol cyn gwneud y Rheoliadau hyn.
RHAN 1 Enwi, cychwyn a chymhwyso
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 8 Ebrill 2021.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2 Cyrchfannau
Dehongli
2 
Yn y Rhan hon—
(a) ystyr “y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion;
(b) mae i “trydedd wlad berthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant third country” gan Atodiad 6 i’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;
(c) ystyr “nwyddau penodedig” yw planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ac Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2021;
(d) mae i “y cyfnod graddoli trosiannol” yr ystyr a roddir i “the transitional staging period” gan Atodiad 6 i’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
Troseddau
3 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 yn cael effaith mewn perthynas â nwyddau penodedig sy’n dod i Brydain Fawr o drydedd wlad berthnasol yn ystod y cyfnod graddoli trosiannol, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “cyrchfan” (“place of destination”) mewn perthynas ag unrhyw nwyddau penodedig, yw’r man cyntaf y danfonir y nwyddau iddo ar gyfer eu dadlwytho ym Mhrydain Fawr, ac at y diben hwn ystyr “nwyddau penodedig” (“specified goods”) yw planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ac Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2021;”.
(3) Yn Atodlen 3, yn Rhan 2—
(a) yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 47(5), yn yr ail golofn, ar y diwedd mewnosoder “neu’r gyrchfan, neu, pan fo’n ofynnol, unrhyw fan arall a bennir yn Erthygl 44(3)”;
(b) yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 50(1), yn yr ail golofn, ar y diwedd mewnosoder “neu’r gyrchfan neu, pan fo’n ofynnol, unrhyw fan arall a bennir yn Erthygl 44(3)”;
(c) ar ôl y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 56(4)—
(i) yn y golofn gyntaf, mewnosoder “Erthygl 56A”;
(ii) yn yr ail golofn, mewnosoder—“Yn ystod y cyfnod graddoli trosiannol, yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr nwyddau perthnasol o drydedd wlad berthnasol roi hysbysiad ymlaen llaw i’r awdurdod cymwys perthnasol cyn yr adeg y disgwylir i’r nwyddau gyrraedd pwynt mynediad ym Mhrydain Fawr.”
(4) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ran o’r cyfnod graddoli trosiannol sy’n digwydd cyn 8 Ebrill 2021.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2021