
2021 Rhif 264 (Cy. 70)
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Gorchymyn Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau’r Senedd) 2021 (Diwrnod Penodedig) 2021
Gwnaed 8 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 14(7)(b) o Atodlen 7 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi llunio Cod Ymarfer drafft ac yn unol â pharagraff 14(2) o Atodlen 7 i Orchymyn 2007 wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ganddynt.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo’r Cod Ymarfer drafft ac yn unol â pharagraff 14(4) o Atodlen 7 i Orchymyn 2007, gosodwyd drafft o God Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau’r Senedd) 2021 gerbron Senedd Cymru ar 20 Ionawr 2021.

Yn unol â pharagraff 14(6) o Atodlen 7 i Orchymyn 2007, o fewn cyfnod o 40 niwrnod, ni phenderfynodd Senedd Cymru beidio â chymeradwyo Cod Ymarfer drafft Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau’r Senedd) 2021, a dyroddwyd y Cod ar ffurf y drafft.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau’r Senedd) 2021 (Diwrnod Penodedig) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Ymarfer” yw Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau’r Senedd) 2021, y gosodwyd drafft ohono gerbron Senedd Cymru ar 20 Ionawr 2021.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i’r Cod Ymarfer ddod i rym yw 9 Mawrth 2021.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2021