
2021 Rhif 253 (Cy. 66)
Landlord A Thenant, Cymru
Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Gwnaed 5 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 9 Mawrth 2021
Yn dod i rym 31 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 82(12) o Ddeddf y Coronafeirws 2020.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2021.
Estyn y cyfnod perthnasol sy’n darparu gwarchodaeth rhag fforffediad etc.
2 
At ddibenion adran 82 (tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr: gwarchodaeth rhag fforffediad etc.) o Ddeddf y Coronafeirws 2020, mae’r “relevant period”, fel y’i diffinnir yn is-adran (12) o’r adran honno yn gorffen, o ran Cymru, â 30 Mehefin 2021.
Dirymu
3 
Mae Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 3) 2020 wedi eu dirymu.
Ken Skates
Y Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2021