
2021 Rhif 251 (Cy. 65)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) (Diwygio) 2021
Gwnaed 5 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 8 Mawrth 2021
Yn dod i rym 30 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9(1)(a), 140(7) ac (8) a 142(5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ac adrannau 87 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mawrth 2021.
Diwygio Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 9(1), yn lle “mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 31 Mawrth 2021” rhodder “mae’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 2, 3, 4, 6, 7 ac 8 yn peidio â chael effaith ar 30 Medi 2021”.
(3) Yn rheoliad 10, yn lle “31 Mawrth 2021” rhodder “30 Medi 2021”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2021