
2021 Rhif 239 (Cy. 62)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
Gwnaed 3 Mawrth 2021
Yn dod i rym 4 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol â pharagraffau 1(8) ac 8F(7) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2) Deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “pasbort planhigion” (“plant passport”) yw pasbort sy’n basbort planhigion y DU neu’n basbort planhigion arall a ganiateir;”.
(3) Yn rheoliad 42—
(a) yn y pennawd, hepgorer “y DU”;
(b) ym mharagraff (1)(b) ac (c), hepgorer “y DU” yn y ddau le y mae’n digwydd.
(4) Yn Atodlen 3, yn Rhan 1, yn y tabl—
(a) yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 79(1), yn y golofn gyntaf, yn lle “a 92a” rhodder “, 92a a 95a(2)”;
(b) yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 80(1), yn y golofn gyntaf, yn lle “a 92a” rhodder “, 92a a 95a(2)”;
(c) yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 93(5), yn yr ail golofn, yn lle “amnewid y DU” rhodder “penodol”;
(d) ar ôl y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 93(5) mewnosoder—“
Erthygl 95a(1) Yn gwahardd cyflwyno uned fasnach GI berthnasol i Brydain Fawr o Ogledd Iwerddon oni bai bod y pasbort planhigion a oedd yn ofynnol ar gyfer ei symud o fewn Gogledd Iwerddon yn dod gyda hi.”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2021