
2021 Rhif 237 (Cy. 60)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 3 Mawrth 2021
Gosodwyd gebron Senedd Cymru 4 Mawrth 2021
Yn dod i rym 1 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 4(1)(f) o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) 2012.
Diwygio rheoliad 2 oʼr prif Reoliadau
2 

(1) Mae rheoliad 2 (dehongli) oʼr prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “prif swyddogion”, ar y diwedd mewnosoder “, a phrif swyddog neu brif weithredwr pob Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o’r Ddeddf”.
(3) Yn y diffiniad o “cynrychiolydd enwebedig”, ar y diwedd mewnosoder “ac, mewn perthynas â phrif swyddog Awdurdod Iechyd Arbennig, swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog”.
Diwygio rheoliad 7 oʼr prif Reoliadau
3 

(1) Mae rheoliad 7 (gofynion cymhwystra i aelodau’r pwyllgor) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2), yn lle “Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu Fwrdd Iechyd Lleol” rhodder “Fwrdd Iechyd Lleol, i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu fel prif swyddog neu brif weithredwr i Awdurdod Iechyd Arbennig”.
(3) Ym mharagraff (3), yn lle “neu fel cyfarwyddwr gweithredol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog” rhodder “, fel cyfarwyddwr gweithredol o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog neu fel swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog”.
(4) Ym mharagraff (4), yn lle “neu fel cyfarwyddwr gweithredol o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog” rhodder “, fel cyfarwyddwr gweithredol o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog neu fel swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2021