
2021 Rhif 232 (Cy. 58)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2021
Gwnaed 3 Mawrth 2021
Yn dod i rym 1 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 18(1) a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 18(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2021 a daw i rym ar 1 Ebrill 2021.
Diwygio erthygl 3 o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993
2 
Yn erthygl 3(2)(c) o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993, hepgorer “a range of information technology systems and associated support and consultancy services, desktop services, web development, telecommunications services, healthcare information services and”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2021