
2021 Rhif 221 (Cy. 55)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
Gwnaed 2 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 3 Mawrth 2021
Yn dod i rym 26 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mawrth 2021.
Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989
2 
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Mewnosod rheoliad 4E
3 
Ar ôl rheoliad 4D (personau sy’n gwneud ceisiadau hwyr o dan Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo) mewnosoder—“
Overseas visitors with Trade and Cooperation Agreement Rights
4E. 

(1) No charge may be made or recovered in respect of any relevant services provided to an overseas visitor who has an entitlement to the provision of those services without charge by virtue of a right arising from the SSC Protocol provisions of the Trade and Cooperation Agreement.
(2) In paragraph (1), “the SSC Protocol” has the same meaning as in section 26(5) of the European Union (Future Relationship) Act 2020 (“the 2020 Act”) and “the Trade and Cooperation Agreement” has the same meaning as in section 37(1) of the 2020 Act.”
Diwygio Atodlen 2
4 
Yn Atodlen 2 (gwledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gytundeb cilyddol â hwy), yn y lleoedd priodol mewnosoder “Ireland” a “Norway”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2021