
2021 Rhif 217 (Cy. 54)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 26 Chwefror 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 2 Mawrth 2021
Yn dod i rym 1 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 160(1), 168 a 210(1) a (7) o Ddeddf Addysg 2002, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Medi 2021.
(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003
2 
Mae Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
Diwygio rheoliad 2 (dehongli)
3 
Yn rheoliad 2, yn y lle priodol, mewnosoder—“
 mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;”,“
 mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 2 o Ddeddf 2018;”,“
 mae i “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 10 o Ddeddf 2018;”,“
 mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational provision” gan adran 312 o Ddeddf 1996;”,“
 mae i “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 3 o Ddeddf 2018;”,“
 ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;”.
Diwygio’r Atodlen
4 
Yn yr Atodlen—
(a) hepgorer paragraff 3(5).
(b) yn lle paragraff 3(6) rhodder—“
(6) Y math neu’r mathau o—
(a) darpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir gan yr ysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (os oes un), a
(b) darpariaeth addysgol arbennig a wneir gan yr ysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig (os oes un).”
(c) yn lle paragraff 5(1) rhodder—“
(1) Nifer y disgyblion yn yr ysgol—
(a) y mae’r ysgol neu awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol mewn perthynas â hwy, a
(b) y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â hwy o dan adran 324 o Ddeddf 1996.”
(d) yn lle paragraff 5(2) rhodder—“
(2) Nifer y disgyblion yn yr ysgol nad ydynt yn dod o fewn is-baragraff (1), ond y nodwyd bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2021