
2021 Rhif 216 (Cy. 53)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau Lefelau Staff Nyrsio (Estyn Sefyllfaoedd) (Cymru) 2021
Gwnaed 1 Mawrth 2021
Yn dod i rym 1 Hydref 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 25B(3)(c) a 203(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 203(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lefelau Staff Nyrsio (Estyn Sefyllfaoedd) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2021.
Sefyllfaoedd penodedig ar gyfer gwasanaethau nyrsio
2 
Mae wardiau cleifion mewnol pediatrig wedi eu pennu yn sefyllfa y mae’r dyletswyddau o dan adran 25B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn gymwys iddi.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Mawrth 2021