
2021 Rhif 209 (Cy. 51)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 26 Chwefror 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 2 Mawrth 2021
Yn dod i rym 1 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996, a pharagraff 15 o Atodlen 1 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2021.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014
2 
Yn Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014, yn rheoliad 22 (dirprwyo swyddogaethau), ar ôl paragraff (2)(d) mewnosoder—“
(e) swyddogaethau’r awdurdod yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996, pan fo’r swyddogaethau hynny wedi eu rhoi gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 neu o dan y Ddeddf honno.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2021