
2021 Rhif 202 (Cy. 49) (C. 5)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 6) 2021
Gwnaed 25 Chwefror 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) o Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 6) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Mawrth 2021
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Mawrth 2021, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a) adran 4 (ysmygu);
(b) adran 5 (y drosedd o ysmygu mewn mangre ddi-fwg neu gerbyd di-fwg);
(c) adran 6 (y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn mangre ddi-fwg);
(d) adran 7 (gweithleoedd);
(e) adran 8 (mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd);
(f) adran 9 (lleoliadau gofal awyr agored i blant);
(g) adran 10 (tir ysgolion);
(h) adran 11 (tir ysbytai);
(i) adran 12 (meysydd chwarae cyhoeddus);
(j) adran 13 (mangreoedd di-fwg ychwanegol);
(k) adran 14 (darpariaeth bellach ynghylch mangreoedd di-fwg ychwanegol: anheddau);
(l) adran 17 (arwyddion: mangreoedd di-fwg);
(m) adran 18 (awdurdodau gorfodi);
(n) adran 19 (pwerau mynediad);
(o) adran 20 (gwarant i fynd i mewn i annedd);
(p) adran 21 (gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraill);
(q) adran 22 (darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad);
(r) adran 23 (pwerau arolygu etc.);
(s) adran 24 (rhwystro etc. swyddogion);
(t) adran 25 (eiddo a gedwir: apelau);
(u) adran 26 (eiddo a gyfeddir: digolledu);
(v) adran 27 (hysbysiadau cosb benodedig);
(w) adran 28 (dehongli’r Bennod hon);
(x) adran 29 (diwygiadau canlyniadol);
(y) Atodlen 1 (cosbau penodedig); a
(z) Atodlen 2 (ysmygu: diwygiadau canlyniadol).
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2021