
2021 Rhif 198 (Cy. 46)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021
Gwnaed 24 Chwefror 2021
Yn dod i rym 1 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 144B(1), (2)(a) a (3), 166(1)(b) a (4)(a) a 168 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 144B(6) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 196(6)(a) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
RHAN 1
Cyffredinol
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021.
(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad” (“market stability report”) yw’r adroddiad y mae’n ofynnol ei lunio a’i gyhoeddi o dan adran 144B o’r Ddeddf;
 ystyr “asesiad poblogaeth” (“population assessment”) yw’r asesiad y mae’n ofynnol ei gynnal o dan adran 14(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 mae i “gofal a chymorth” (“care and support”) yr un ystyr ag a roddir gan adran 4 o’r Ddeddf;
 mae i “gwasanaeth rheoleiddiedig” (“regulated service”) yr un ystyr ag a roddir gan adran 2(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
 ystyr “y Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth” (“the Partnership Arrangements Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015.
RHAN 2
Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad
Materion eraill sydd i’w cynnwys yn yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad
2 
Rhaid i adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad gynnwys asesiad o’r materion hynny a bennir yn yr Atodlen.
Cyfnod asesu digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth
3 
Rhaid asesu digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth dros y cyfnod ers cyhoeddi’r asesiad poblogaeth blaenorol.
Cyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad
4 

(1) Rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad erbyn 1 Mehefin 2022.
(2) Rhaid cyhoeddi adroddiadau dilynol ar sefydlogrwydd y farchnad bob 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad diweddaraf ar sefydlogrwydd y farchnad.
Ffurf yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad
5 
Rhaid cyhoeddi’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad mewn fformat electronig.
RHAN 3
Diwygio’r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth
Diwygio’r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth
6 
Yn y Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth, ar ôl rheoliad 18 mewnosoder—“
Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad
Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad
18A. 

(1) Rhaid i’r cyrff partneriaeth ar gyfer pob un o’r ardaloedd bwrdd partneriaeth rhanbarthol bennu’r trefniadau ar gyfer cyflawni ar y cyd y swyddogaethau adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddogaethau adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad” yw’r swyddogaethau penodedig a roddir i awdurdodau lleol gan adran 144B o’r Ddeddf.”
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2021
YR ATODLEN
Materion eraill sydd i’w cynnwys yn yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad
Rheoliad 2
Digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth
1 
Asesiad o ddigonolrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth sy’n cynnwys unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth i ddiwallu’r anghenion a nodir yn yr asesiad poblogaeth diweddaraf.
Ansawdd cyffredinol gofal a chymorth
2 
Asesiad o ansawdd cyffredinol y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan wasanaethau rheoleiddiedig wrth ddiwallu anghenion a chyflawni canlyniadau personol pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a’r gofalwyr hynny y mae angen cymorth arnynt.
Tueddiadau cyfredol neu ddatblygol gofal a chymorth
3 
Asesiad o’r tueddiadau cyfredol neu ddatblygol yn y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth a’u heffaith ar ddigonolrwydd, ansawdd neu sefydlogrwydd y gwasanaethau hynny.
Heriau
4 
Asesiad o unrhyw heriau sylweddol ar hyn o bryd neu yn y dyfodol i ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth.
Effaith comisiynu
5 
Asesiad o effaith comisiynu a chyllido ar ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth, gan gynnwys dulliau rhanbarthol a defnyddio cronfeydd cyfun.