
2021 Rhif 194 (Cy. 45)
Pleidiau Gwleidyddol, Cymru
Gorchymyn Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2021
Gwnaed 24 Chwefror 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 3 o Atodlen 8 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“Deddf 2000”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi llunio Cod Ymarfer drafft ac yn unol â pharagraff 3(2) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000 wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ganddynt.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo’r Cod Ymarfer drafft ac yn unol â pharagraff 3(4) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000, gosodwyd drafft o God Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020 gerbron y Senedd ar 18 Rhagfyr 2020.

Yn unol â pharagraff 3(6) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000, o fewn cyfnod o 40 niwrnod, ni phenderfynodd y Senedd beidio â chymeradwyo Cod Ymarfer drafft Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020, a dyroddwyd y cod ar ffurf y drafft.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Ymarfer” yw Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020, y gosodwyd drafft ohono gerbron y Senedd ar 18 Rhagfyr 2020.
Y Diwrnod Penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i’r Cod Ymarfer ddod i rym yw 25 Chwefror 2021.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2021