
2021 Rhif 193 (Cy. 44)
Llywodraeth Leol, Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Gwnaed 24 Chwefror 2021
Yn dod i rym 25 Chwefror 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 4(2)(c) a 6(7) ac (8) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 201(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ddechrau rheoliad 56(2) mewnosoder “Subject to paragraph (3B),”.
(3) Yn rheoliad 56(3B)—
(a) yn lle “paragraph 4(2)” rhodder “paragraphs 4(2), 6(7) or 6(8)”; a
(b) dileer “, or an application under paragraph 6(8) of that Schedule made by virtue of that application,”.
(4) Ar ddiwedd rheoliad 56(3C), ar ôl “the Local Government (Coronavirus) (Postponement of Elections) (Wales) Regulations 2020” mewnosoder “or will take place between 25 February 2021 and 4 November 2021”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2021