
2021 Rhif 181 (Cy. 42) (C. 3)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 7) 2021
Gwnaed 22 Chwefror 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 188(1) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 7) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 23 Chwefror 2021—
(a) adran 56(1), i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 144B (adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad leol) o Ddeddf 2014, ac eithrio is-adran (2)(a)(ii) o’r adran honno;
(b) adran 6, i’r graddau y mae’n gymwys i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan baragraff (a) o adran 2(1); ac
(c) paragraff 30 o Atodlen 3.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
22 Chwefror 2021