
2021 Rhif 172 (Cy. 40)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 3.06 p.m. ar 19 Chwefror 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.45 p.m. ar 19 Chwefror 2021
Yn dod i rym 20 Chwefror 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Chwefror 2021.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 4(6) mewnosoder—“
(6A) Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn un o Atodlenni 1 i 4 yn gymwys i ardal yn ddarostyngedig i’r addasiadau dros dro a bennir mewn perthynas â’r ardal honno yn Atodlen 5.”
(3) Yn rheoliad 57(1), yn lle is-baragraff (h) rhodder—“
(h) ystyr “athletwr elît” yw unigolyn—
(i) sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,
(ii) sydd wedi ei ddynodi’n athletwr elît gan Gyngor Chwaraeon Cymru at ddibenion—(aa) y Rheoliadau hyn,(bb) Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,(cc) Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,(dd) Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu(ee) Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,
(iii) sy’n “mabolgampwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Pob Haen) (Lloegr) 2020,
(iv) sy’n “mabolgampwr proffesiynol” o fewn yr ystyr a roddir i “professional sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cyfyngiadau a Gofynion) (Lefelau Lleol) (Yr Alban) 2020, neu
(v) sy’n “athletwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite athlete” gan baragraff 39(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Gogledd Iwerddon) 2020;”;
(4) Ym mharagraff 1 o Atodlen 4, yn is-baragraff (4)(f)—
(a) ar ôl is-baragraff (ii), mewnosoder “neu”;
(b) hepgorer is-baragraff (iv) a’r “neu” yn union o’i flaen.
(5) Ym mharagraff 2 o Atodlen 4, yn is-baragraff (4)(i), hepgorer is-baragraff (ii) a’r “neu” yn union o’i flaen.
(6) Ym mharagraff 6A o Atodlen 4—
(a) yn is-baragraff (1), ar ôl “ddisgybl” mewnosoder “dynodedig”;
(b) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Yn y paragraff hwn, ystyr “disgybl dynodedig” yw disgybl ym mlwyddyn 3 neu’n uwch.”;
(c) yn is-baragraff (2)—
(i) ym mharagraff (a), ar ôl “ddisgybl” mewnosoder “dynodedig”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “disgybl rhag mynd” rhodder “i ddisgybl dynodedig fynd”;
(iii) ym mharagraff (c), yn lle “disgybl rhag mynd” rhodder “i ddisgybl dynodedig fynd”;
(iv) ym mharagraff (d), yn lle “disgybl rhag mynd” rhodder “i ddisgybl dynodedig fynd”;
(v) ym mharagraff (e), yn lle “disgybl sy’n ddisgybl preswyl rhag preswylio” rhodder “i ddisgybl dynodedig sy’n ddisgybl preswyl breswylio”.
(7) Ym mharagraff 6B o Atodlen 4, yn lle is-baragraff (2)(a) rhodder—“
(a) sefydliad addysg bellach—
(i) i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall, neu
(ii) i wneud cwrs mewn peirianneg, adeiladu, lletygarwch, arlwyo neu amaethyddiaeth, pan fo presenoldeb yn y sefydliad yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r myfyriwr i gwblhau elfen ofynnol o’r cwrs;”.
(8) Ym mharagraff 6D o Atodlen 4, ar y diwedd mewnosoder—“
(m) mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
(n) ystyr “blwyddyn 3” yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 8 oed;
(o) ystyr “grŵp blwyddyn” yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran.”
(9) Yn Atodlen 5, ar ôl y tabl mewnosoder—“
Addasiadau dros dro
2. 
Mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 4, am y cyfnod o ddechrau’r diwrnod ar 20 Chwefror 2021 tan ddiwedd y diwrnod ar 12 Mawrth 2021—
(a) mae paragraff 1(4)(f) o Atodlen 4 i’w ddarllen—
(i) fel pe bai’r “neu” ar ôl is-baragraff (ii) wedi ei hepgor, a
(ii) fel pe bai wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (iii)“neu
(iv) mewn grŵp o ddim mwy na 4 o bersonau o ddim mwy na 2 aelwyd, ond caiff y grŵp hefyd gynnwys unrhyw ofalwr i berson yn y grŵp ac unrhyw blant o’r naill aelwyd neu’r llall sydd o dan 11 oed.”;
(b) mae paragraff 2(4)(i) o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (i)“neu
(ii) mewn grŵp o ddim mwy na 4 o bersonau o ddim mwy na 2 aelwyd, ond caiff y grŵp hefyd gynnwys unrhyw blant o’r naill aelwyd neu’r llall sydd o dan 11 oed,”.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 3.06 p.m. ar 19 Chwefror 2021