
2021 Rhif 171 (Cy. 39)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed am 2.55 p.m. ar 19 Chwefror 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.30 p.m. ar 19 Chwefror 2021
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 20 Chwefror 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 20 Chwefror 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr” (“the Operator Liability Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021;
 “ystyr “y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd” (“the Public Health Information Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020.
Diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd
2 

(1) Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (darparu gwybodaeth cyn archebu ac wrth gofrestru)—
(a) ym mharagraff (2)(a)(v), hepgorer “ac”;
(b) ym mharagraff (2)(a)(vi), yn lle “;” rhodder “, a”;
(c) ar ôl is-baragraff (2)(a)(vi) mewnosoder—“
(vii) www.gov.uk/travel-quarantine-and-testing (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen);”;
(d) ym mharagraff (2)(b)(v), hepgorer “ac”;
(e) ym mharagraff (2)(b)(vi), yn lle “;” rhodder “, a”;
(f) ar ôl paragraff (2)(b)(vi) mewnosoder—“
(vii) www.gov.uk/travel-quarantine-and-testing (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen);”;
(g) ym mharagraff (2)(c)(ii)(bb), hepgorer “ac”;
(h) yn lle paragraff (2)(c)(ii)(cc) rhodder—“(cc) y gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru yn unol â rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, a(dd) y gofyniad i ynysu;”.
(3) Yn rheoliad 3A (darparu gwybodaeth cyn i daith ymadael)—
(a) ym mharagraff (4)(a)(iv), hepgorer “ac”;
(b) ym mharagraff (4)(a)(v), yn lle “;” rhodder “, a”;
(c) ar ôl paragraff (4)(a)(v), mewnosoder—“
(vi) yn hysbysu P am y gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru yn unol â rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;”;
(d) ym mharagraff (4)(b)(v), hepgorer “ac”;
(e) ym mharagraff (4)(b)(vi), yn lle “;” rhodder “, a”;
(f) ar ôl paragraff (4)(b)(vi) mewnosoder—“
(vii) www.gov.uk/travel-quarantine-and-testing (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen);”
(4) Yn Rhan 1 o’r Atodlen (yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), (3)(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c))—
(a) yn lle “3) All arrivals must self-isolate for 10 days unless exempt. Check the list of exempt countries immediately before travel and the list of work-related exemptions if travelling for work.” rhodder—“
3) All arrivals must quarantine for 10 days unless exempt. If you have travelled through a red list country in the last 10 days, you must have a valid Managed Quarantine Facility booked prior to departure. For information please visit: 
www.gov.uk/travel-quarantine-and-testing. Check the list of exempt countries immediately before travel and the list of work-related exemptions if travelling for work.
4) Everyone is required to take a coronavirus test on days 2 and 8 of their quarantine. You must have this booked prior to departure. For information please visit: https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales.”;
(b) yn lle “4) It” rhodder “5) It”;
(c) yn lle “5) If you self-isolate” rhodder “5) If you quarantine”.
(5) Yn Rhan 2 o’r Atodlen (y datganiad sydd i’w ddarparu at ddibenion rheoliad 4)—
(a) ym mharagraff (a) (fersiwn Gymraeg), yn lle’r geiriau o “Cyn cael mynediad i’r Deyrnas Unedig” hyd “Ewch i gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.” rhodder—“Cyn dod i’r DU, rhaid ichi lenwi ffurflen lleoli teithwyr ar lein, ni waeth o ble yr ydych yn cyrraedd. Rhaid ichi hefyd fynd i gwarantin am y 10 niwrnod cyntaf ar ôl ichi gyrraedd, oni bai eich bod mewn categori esempt. Mae hyn er mwyn eich gwarchod chi ac eraill. Mae hyn yn cynnwys archebu cwarantin mewn gwesty os ydych wedi teithio drwy wlad sydd ar y rhestr goch yn ystod y 10 niwrnod diwethaf, neu archebu profion cwarantin yn y cartref os ydych wedi teithio mewn unrhyw wlad arall.Ewch i gov.uk/coronavirus i gael rhagor o wybodaeth.”;
(b) ym mharagraff (b) (fersiwn Saesneg), yn lle’r geiriau o “Before entering the UK” hyd “Visit gov.uk for more information.” rhodder—“Before entering the UK, you must complete a passenger locator form online, regardless of where you are arriving from. You must also quarantine for the first 10 days after you arrive, unless you are in an exempt category. This is to protect yourself and others. This includes booking hotel quarantine if you have travelled through a red list country in the last 10 days, or booking home quarantine tests if you have travelled in any other country.Visit gov.uk/coronavirus for more information.”
Diwygio’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr
3 

(1) Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr (atebolrwydd gweithredwyr mewn cysylltiad â chyrraedd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (dehongli),
(a) yn y diffiniad o “person awdurdodedig”, yn lle “yw” rhodder “, ac eithrio yn rheoliad 5B, yw”;
(b) yn y lle priodol, mewnosoder “ystyr “hysbysu am drefniadau profion ar ôl cyrraedd” (“notification of post arrival testing arrangements”) yw hysbysu am y trefniadau a wnaed yn unol â rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i deithiwr gymryd profion ar gyfer canfod y coronafeirws”;
(c) yn y diffiniad o “gweithredwr”, yn lle “yw” rhodder “, ac eithrio yn rheoliad 5B, yw”;
(d) yn lle’r diffiniad o “teithiwr perthnasol”, rhodder—“
 ystyr “teithiwr perthnasol” (“relevant passenger”) yw—
(a) teithiwr sy’n methu, heb esgus rhesymol—
(i) â dangos hysbysiad dilys o ganlyniad negyddol i brawf cymhwysol pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6A(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, neu
(ii) â darparu cyfeirnod prawf neu dystiolaeth arall bod profion ar gyfer canfod y coronafeirws wedi eu trefnu mewn cysylltiad â’r teithiwr i swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6B(8) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, neu
(b) teithiwr sy’n cyrraedd porthladd yng Nghymru yn groes i reoliad 12E(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;”.
(3) Ar ôl rheoliad 5 (gofyniad i sicrhau bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol), mewnosoder—“
Gofyniad i sicrhau bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraedd
5A. 

(1) Rhaid i weithredwr sicrhau bod teithiwr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol yn meddu ar hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraedd.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â theithiwr—
(a) y mae’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, yn credu’n rhesymol nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r gofyniad yn rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru) neu bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw; neu
(b) sy’n blentyn, yn teithio heb unigolyn cyfrifol.
Gofyniad i sicrhau nad yw teithwyr penodol yn cyrraedd porthladdoedd yng Nghymru
5B. 

(1) Rhaid i weithredwr gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw teithiwr Atodlen 3A yn cyrraedd porthladd yng Nghymru ar wasanaeth trafnidiaeth perthnasol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a) pan fo’n angenrheidiol i beilot sydd â rheolaeth o awyren lanio’r awyren sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau—
(i) diogelwch yr awyren, neu
(ii) diogelwch unrhyw berson sydd ar yr awyren;
(b) pan fo awyren yn ambiwlans awyr ac yn glanio yng Nghymru at ddibenion cludo person i gael triniaeth feddygol;
(c) pan fo’r peilot sydd â rheolaeth o awyren yn cael cyfarwyddyd gan berson awdurdodedig i lanio’r awyren yng Nghymru.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth” (“transport service”) yw—
(a) gwasanaeth teithwyr rhyngwladol,
(b) gwasanaeth (ac eithrio gwasanaeth teithwyr rhyngwladol)—
(i) sy’n cludo teithwyr sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin (boed am daliad neu gydnabyddiaeth brisiadwy neu fel arall), a
(ii) a ddarperir gan awyren (ac eithrio awyren breifat), neu
(c) hediad —
(i) sy’n cludo teithwyr sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin (boed am daliad neu gydnabyddiaeth brisiadwy neu fel arall), a
(ii) a ddarperir gan awyren breifat;
 ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth perthnasol” (“relevant transport service”), mewn perthynas â gweithredwr, yw gwasanaeth trafnidiaeth a ddarperir gan y gweithredwr hwnnw neu ar ei ran;
 mae i “gweithredwr”, mewn perthynas â gwasanaeth trafnidiaeth a ddarperir gan awyren, yr ystyr a roddir i “operator” yn erthygl 4 o Orchymyn Llywio Awyr 2016;
 mae i “peilot sydd â rheolaeth” ac “awyren breifat” yr ystyron a roddir i “pilot in command” a “private aircraft” yng Ngorchymyn Llywio Awyr 2016 (gweler Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw);
 ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—
(a) cwnstabl,
(b) yr Awdurdod Hedfan Sifil,
(c) yr Ysgrifennydd Gwladol, neu
(d) person a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Hedfan Sifil neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn Llywio Awyr 2016;
 ystyr “teithiwr Atodlen 3A” (“Schedule 3A passenger”) yw person sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ac nad yw’n berson y mae rheoliad 12E(2) a (3) o’r rheoliadau hynny yn gymwys iddo.”
(4) Yn rheoliad 6 (troseddau),—
(a) yn lle paragraff (1), rhodder—“
(1) Mae gweithredwr sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad yn—
(a) rheoliad 5(1),
(b) rheoliad 5A(1), neu
(c) rheoliad5B(1),
yn cyflawni trosedd.”;
(b) ym mharagraff (3), yn lle “(1)” rhodder “(1)(a)”;
(c) ar ôl paragraff (3), mewnosoder—“
(4) Mewn perthynas â throsedd ym mharagraff (1)(b), mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod bod hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraedd a ddarparwyd mewn cysylltiad â theithiwr perthnasol yn ffug neu’n anghywir mewn unrhyw fodd.
(5) Mewn perthynas â throsedd ym mharagraff (1)(c), mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod bod teithiwr perthnasol yn deithiwr Atodlen 3A.”
(5) Yn rheoliad 9 (pŵer i ddefnyddio ac i ddatgelu gwybodaeth), ym mharagraff (2)(a), yn lle “6A” rhodder “6A, 6B neu 12E(1)”.
(6) Yn rheoliad 10 (adolygu), yn lle “reoliad 5” rhodder “reoliadau 5, 5A a 5B”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 2.55 p.m. ar 19 Chwefror 2021