
2021 Rhif 16 (Cy. 6)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed 7 Ionawr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11 Ionawr 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Trysorlys gan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i cymeradwyir drwy benderfyniad gan Senedd Cymru, ar yr amod y cymeradwyir y Gorchymyn cyn i Senedd Cymru gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, neu cyn 1 Mawrth 2021 (pa un bynnag sydd gynharaf).
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y lluosydd ardrethu annomestig
2 
At ddiben paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, pennir mai 291.0 yw B.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020 wedi ei ddirymu.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
7 Ionawr 2021