
2021 Rhif 152 (Cy. 37)
Pridiannau Tir, Cymru
Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffioedd) (Cymru) 2021
Gwnaed 12 Chwefror 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Chwefror 2021
Yn dod i rym 1 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Arglwydd Ganghellor gan adran 14(1)(h) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, yn gwneud y Rheolau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheolau hyn yw Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffioedd) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheolau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021 ond nid yw rheolau 2, 3, 4 a 5 ond yn cael effaith mewn perthynas ag ardal awdurdod lleol, ar y dyddiad y daw Rhannau 1 i 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015 i rym mewn perthynas â’r ardal honno.
(3) Yn y Rheolau hyn—
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “y prif Reolau” (“the principal Rules”) yw Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018;
 mae i “tir” yr un ystyr ag a roddir i “land” yn adran 16 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975;
 ystyr “tystysgrif ddiffiniol” (“definitive certificate”) yw tystysgrif a ddyroddir gan yr Uwch Dribiwnlys o dan adran 2(3)(a) o Ddeddf Hawliau Golau 1959.
Ffioedd
2 
Y ffioedd am y gwasanaethau a bennir yn yr Atodlen yw’r rheini a nodir yn yr Atodlen honno ac maent yn daladwy i’r Prif Gofrestrydd Tir yn unol â rheol 3.
Y dull o dalu
3 

(1) Mae’r ffioedd yn daladwy wrth ddarparu’r cais neu’r gofyniad, neu wrth gyflwyno’r dystysgrif ddiffiniol, fel sy’n briodol.
(2) Rhaid i’r ffioedd gael eu talu drwy gerdyn credyd neu gerdyn debyd ac eithrio pan fo’r Prif Gofrestrydd Tir yn caniatáu fel arall neu pan fo paragraff (3) neu (4) yn gymwys.
(3) Pan fo cytundeb rhwng y ceisydd neu’r person sy’n gofyn am y gwasanaeth a’r Prif Gofrestrydd Tir, caniateir talu ffi drwy ddebyd uniongyrchol i unrhyw gyfrif banc Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi a gyfarwyddir gan y Prif Gofrestrydd Tir o bryd i’w gilydd.
(4) Pan fo cais neu ofyniad yn cael ei wneud, neu dystysgrif ddiffiniol yn cael ei chyflwyno, heblaw drwy ddefnyddio dull electronig o gyfathrebu, caniateir talu’r ffi drwy siec neu archeb bost, wedi ei chroesi a’i gwneud yn daladwy i Gofrestrfa Tir Ei Mawrhydi.
Dirymu
4 
Mae rheol 14 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 1977 ac Atodlen 3 iddynt wedi eu dirymu.
Diwygiad canlyniadol i Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018
5 

(1) Mae Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheol 15 (dirymiadau)—
(a) ar ddechrau paragraff (1) hepgorer y geiriau “Subject to paragraph (2)”; a
(b) hepgorer paragraff (2).
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
12 Chwefror 2021
YR ATODLEN
Ffioedd
Rheol 2


Gwasanaeth  Ffi
(1) Cofrestru hysbysiad rhwystro golau o dan reol 4 o’r prif Reolau £18
(2) Amrywio cofrestriad hysbysiad rhwystro golau o dan reol 7(1) o’r prif Reolau £18
(3) Canslo cofrestriad hysbysiad rhwystro golau o dan reol 7(1) o’r prif Reolau £18
(4) Amrywio cofrestriad hysbysiad rhwystro golau o dan reol 7(6) o’r prif Reolau (wedi cyflwyno tystysgrif ddiffiniol) £18
(5) Chwiliad swyddogol o’r gofrestr (gan gynnwys dyroddi tystysgrif swyddogol o chwiliad) o dan adran 9(1) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 £15; neu £0 os darperir y gofyniad o fewn 6 mis i ddarparu gofyniad cynharach gan yr un person am chwiliad swyddogol mewn cysylltiad â’r un tir, y talwyd y ffi a ragnodwyd amdano.