
2021 Rhif 1480 (Cy. 382)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 11.03 a.m. ar 22 Rhagfyr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.45 p.m. ar 22 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a) paragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011; a
(b) paragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud y Rheoliadau hyn heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Rhagfyr 2021.
Diwygiadau i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Atodlen 5 (cymhwyso Rhan 3, ei rhanddirymu a’i haddasu, mewn perthynas â thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig) i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 5 (rhanddirymu rheoliad 14: amseru hysbysiad mewnforio)—
(a) yn is-baragraff (3)—
(i) yn lle “O 1 Ionawr 2022” rhodder “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3A), o 1 Ionawr 2022”;
(ii) ar ôl “cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid” mewnosoder “neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad yw is-baragraff (2)(c) eisoes yn ymdrin â hwy”;
(b) ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys i nwyddau perthnasol—
(a) sydd o fewn cwmpas Erthygl 7 neu Erthygl 10 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau sydd wedi eu hesemptio rhag rheolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau a anfonir at bersonau naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad; neu
(b) a fewnforir i Brydain Fawr o Weriniaeth Iwerddon pan fodlonir yr amod ym mharagraff (3B).
(3B) Yr amod yw fod y nwyddau wedi eu cynhyrchu yng Ngogledd Iwerddon neu yng Ngweriniaeth Iwerddon, ac at y dibenion hyn cymerir bod nwyddau wedi eu cynhyrchu yng Ngogledd Iwerddon neu yng Ngweriniaeth Iwerddon os ydynt wedi eu prosesu yno.”
(3) Yn lle paragraff 8(a) (addasu rheoliad 20: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – cynhyrchion) rhodder—“
(a) ym mharagraff (1)—
(i) “yw gwiriadau” wedi ei roi yn lle “yw’r gwiriadau mewn safle rheoli ar y ffin”;
(ii) “neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol””.
(4) Yn lle paragraff 9 (addasu rheoliad 23: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – anifeiliaid) rhodder—“Mae rheoliad 23 yn gymwys fel pe bai, ym mharagraff (1)—
(a) “yw gwiriadau” wedi ei roi yn lle “yw’r gwiriadau mewn safle rheoli ar y ffin”;
(b) “neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5,” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol””.
Diwygiad i Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
3 
Yn rheoliad 3(1) (addasiadau darfodol i Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC) o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021, yn lle “31 Rhagfyr 2021” rhodder “30 Mehefin 2022”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
Am 11.03 a.m. ar 22 Rhagfyr 2021