
2021 Rhif 1476 (Cy. 378)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2021
Gwnaed 21 Rhagfyr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 22 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym 1 Ionawr 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996, ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2021 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2022.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Ar ôl rheoliad 6 mewnosoder—“
7. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy’n dod o fewn y flwyddyn ysgol 2021-2022 sydd wedi ei neilltuo (yn llwyr neu’n bennaf) i baratoi ysgolion a chynllunio gan athrawon oherwydd amgylchiadau sy’n ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).
(2) Mae paragraff (1) i gael effaith mewn perthynas â dim mwy na phedair sesiwn ysgol yn nau ddiwrnod cyntaf ail dymor y flwyddyn ysgol honno.
(3) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, mae’r sesiwn honno i’w hystyried at ddibenion rheoliad 4 fel sesiwn pan gyfarfu’r ysgol.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
21 Rhagfyr 2021