Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu doriad am fwy na phedwar diwrnod.
2021 Rhif 1468 (Cy. 376)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021
Gwnaed am 5.21 p.m. ar 17 Rhagfyr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 8.00 p.m. ar 17 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym 20 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45F(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Rhagfyr 2021.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16(3), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) caniatáu neu ei gwneud yn ofynnol i bersonau sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre weithio gartref;”.
(3) Ar ôl Rhan 4A mewnosoder—“
RHAN 4B Gofyniad i weithio gartref pan fo’n ymarferol
Gofyniad i weithio gartref pan fo’n ymarferol
18B. 

(1) O dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), ni chaiff unrhyw berson ymadael â’r man lle y mae’n byw, neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw, at ddibenion gwaith neu i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol.
(2) Yr amgylchiadau yw ei bod yn rhesymol ymarferol i’r person weithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol o’r man lle y mae’n byw.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r man lle y mae person yn byw yn cynnwys y fangre lle y mae’n byw ynghyd ag unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath.”
(4) Ar ôl rheoliad 42 mewnosoder—“
Trosedd o fethu â gweithio gartref pan fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny
42A. 
Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri’r gofyniad yn rheoliad 18B yn cyflawni trosedd.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 5.21 p.m. ar 17 Rhagfyr 2021