
2021 Rhif 1431 (Cy. 370)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 12 Rhagfyr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym 4 Chwefror 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 19(3) a (9) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Chwefror 2022.
Diwygiadau i Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014
2 

(1) Mae Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 15 (athro-lywodraethwyr), ym mharagraff (4)—
(a) daw’r geiriau o “unrhyw berson” hyd at y diwedd yn is-baragraff (a), a
(b) ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“; neu
(b) ffederasiwn sy’n cynnwys dwy ysgol yn unig.”
(3) Yn rheoliad 16 (staff-lywodraethwyr), ym mharagraff (4)—
(a) daw’r geiriau o “unrhyw berson” hyd at y diwedd yn is-baragraff (a), a
(b) ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“; neu
(b) ffederasiwn sy’n cynnwys dwy ysgol yn unig.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
12 Rhagfyr 2021