
2021 Rhif 1411 (Cy. 367)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Rheoliadau Traffordd yr M48 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 2 (Cylchfan Newhouse), Cas-gwent) (Terfyn Cyflymder 40 mya) 2021
Gwnaed 10 Rhagfyr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 13 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym 12 Ionawr 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 17(2), (3) a (3ZAA) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw sefydliadau cynrychioliadol y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(10) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffordd yr M48 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 2 (Cylchfan Newhouse), Cas-gwent) (Terfyn Cyflymder 40 mya) 2021 a deuant i rym ar 12 Ionawr 2022.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “traffordd yr M48” yw traffordd yr M48 De Swydd Gaerloyw i Dde Cymru.
Gosod terfyn cyflymder
2 
Ni chaiff neb yrru cerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o draffordd yr M48 a bennir yn yr Atodlen.
Lee Waters
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, o dan awdurdod y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2021
YR ATODLEN
DARNAU O DRAFFORDD YR M48
 Rheoliad 2

Y darnau a ganlyn o draffordd yr M48 wrth Gyffordd 2 (Cylchfan Newhouse) yn Sir Fynwy—
(a) y ffordd ymadael tua’r gorllewin o bwynt 200 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Chylchfan Newhouse hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd gylchredol, a
(b) y ffordd ymadael tua’r dwyrain o bwynt 250 o fetrau i’r gorllewin o’i chyffordd â Chylchfan Newhouse hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd gylchredol.
