
2021 Rhif 1403 (Cy. 365)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Cynghorau Cymuned Cymwys (Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol) (Cymwysterau Clercod) (Cymru) 2021
Gwnaed 9 Rhagfyr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 13 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym 5 Mai 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 30(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Cymuned Cymwys (Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol) (Cymwysterau Clercod) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mai 2022.
Cymwysterau penodedig clercod
2 
At ddiben adran 30(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, rhaid i glerc cyngor cymuned ddal o leiaf un o’r cymwysterau a ganlyn er mwyn i’r cyngor cymuned fodloni’r ail amod cymhwystra—
(a) Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol;
(b) Tystysgrif Addysg Uwch mewn Llywodraethu Cymunedol;
(c) Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymgysylltu a Llywodraethu Cymunedol;
(d) Tystysgrif Addysg Uwch mewn Polisi Lleol.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2021