
2021 Rhif 1364 (Cy. 359)
Llywodraeth Leol, Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021
Gwnaed am 10.05 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym  3 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 5(3) o Fesur Plant a Theuluoedd 2010 ac adrannau 84(2)(a) a 174(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”).

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o Ddeddf 2021.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “strategaeth tlodi plant” yw strategaeth sy’n nodi pob un o’r pethau a bennir yn adran 2(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
(b) ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
(c) ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(d) ystyr “cyfnod y strategaeth” yw’r cyfnod y mae strategaeth tlodi plant mewn perthynas ag ef.
Cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth tlodi plant gyntaf a’r strategaethau tlodi plant sy’n dilyn
3 

(1) Cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth tlodi plant gyntaf a lunnir gan gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar 1 Ionawr 2022 neu cyn hynny yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026.
(2) Cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth tlodi plant gyntaf a lunnir gan gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar ôl 1 Ionawr 2022 yw’r cyfnod—
(a) sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir y strategaeth (gweler rheoliad 4(2)), a
(b) sy’n dod i ben ar 31 Mawrth yn y drydedd flwyddyn galendr yn dilyn y flwyddyn galendr y cyhoeddir y strategaeth ynddi.
(3) Cyfnod y strategaeth ar gyfer strategaethau tlodi plant dilynol yw’r cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar 1 Ebrill yn union ar ôl diwedd cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth flaenorol.
Amseriad cyhoeddi’r strategaeth tlodi plant gyntaf a’r strategaethau tlodi plant sy’n dilyn
4 

(1) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar 1 Ionawr 2022 neu cyn hynny gyhoeddi ei strategaeth tlodi plant gyntaf ar 1 Ebrill 2023 neu cyn hynny.
(2) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar ôl 1 Ionawr 2022 gyhoeddi ei strategaeth tlodi plant gyntaf heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y sefydlir y cyd-bwyllgor corfforedig.
(3) Rhaid i strategaethau dilynol gael eu cyhoeddi ar y dyddiad y mae cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth yn dechrau neu cyn hynny.
Dull cyhoeddi strategaeth tlodi plant
5 

(1) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi strategaeth tlodi plant drwy ei rhoi ar ei wefan ar y dyddiad y cyhoeddir y strategaeth a rhaid iddo gynnal y strategaeth ar y wefan honno drwy gydol cyfnod y strategaeth.
(2) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig wneud trefniadau i anfon copi o unrhyw wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (1) pan ofynnir amdano i unrhyw aelod o’r cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y gofynnir am gopi.
Adolygiad o’r strategaeth tlodi plant
6 

(1) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig adolygu pob un o’i strategaethau tlodi plant cyn diwedd cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth o dan sylw.
(2) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig lunio adroddiad ar y cyfryw adolygiad a rhaid iddo gyhoeddi’r adroddiad adolygu drwy ei roi ar ei wefan.
(3) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig wneud trefniadau i anfon copi o unrhyw wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (2) pan ofynnir amdano i unrhyw aelod o’r cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y gofynnir am gopi.
Gofyniad ymgynghori
7 
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig, cyn cyhoeddi strategaeth tlodi plant, ymgynghori â Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol a phersonau eraill sydd, yn nhyb y cyd-bwyllgor corfforedig, yn briodol.
Diwygio Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cymru) 2011
8 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cymru) 2011, yn lle “nac awdurdod lleol” rhodder “, awdurdod lleol na chyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 10.05 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021