
2021 Rhif 1361 (Cy. 357)
Llywodraeth Leol, Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021
Gwnaed am 10.00 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym 3 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 84(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
Diwygio Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010
2 
Yn adran 6(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(ba) cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 10.00 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021