
2021 Rhif 1360 (Cy. 356)
Llywodraeth Leol, Cymru
Llesiant, Cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021
Gwnaed am 9.55 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym  3 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 84(2)(a) a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
2 

(1) Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 6(1) (ystyr “corff cyhoeddus”), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(ba) cyd-bwyllgor corfforedig;”.
(3) Ar ôl adran 8 (amcanion llesiant Gweinidogion Cymru) mewnosoder—“
Amcanion llesiant cyd-bwyllgorau corfforedig
8A 

(1) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar 1 Ionawr 2022 neu cyn hynny osod a chyhoeddi ei amcanion llesiant—
(a) heb fod yn hwyrach na 1 Ebrill 2023, a
(b) ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’n eu hystyried yn briodol.
(2) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar ôl 1 Ionawr 2022 osod a chyhoeddi ei amcanion llesiant—
(a) heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y sefydlir y cyd-bwyllgor corfforedig, a
(b) ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’n eu hystyried yn briodol.
(3) Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig adolygu ei amcanion llesiant.
(4) Os yw cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.
(5) Caiff cyd-bwyllgor corfforedig, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio ei amcanion llesiant.
(6) Pan fo cyd-bwyllgor corfforedig yn diwygio ei amcanion llesiant o dan is-adran (4) neu (5), rhaid iddo eu cyhoeddi gyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(7) Wrth osod neu ddiwygio ei amcanion llesiant, rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig ystyried adroddiad y Comisiynydd a gyhoeddir o dan adran 23.”
(4) Yn adran 9(1) (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill), ar ôl “Gweinidogion Cymru” mewnosoder “neu gyd-bwyllgor corfforedig”.
(5) Yn adran 55(1) (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 9.55 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021