
2021 Rhif 1359 (Cy. 355)
Llywodraeth Leol, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021
Gwnaed Am 9.50 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym 3 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 84(2)(a) a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
Diwygio adran 11A o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949
2 

(1) Mae adran 11A (dyletswydd cyrff a phersonau penodol i roi sylw i’r dibenion y dynodwyd Parciau Cenedlaethol ar eu cyfer) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (4), yn y diffiniad o “public body”, ar ôl “local authority,” mewnosoder “corporate joint committee,”.
(3) Ar ôl is-adran (6) mewnosoder—“
(7) In this section, “corporate joint committee” means a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 9.50 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021