
2021 Rhif 1355 (Cy. 353)
Llywodraeth Leol, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021
Gwnaed am 9.45 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym 3 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 84(2)(a) a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
Diwygio adran 85 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000
2 
Yn adran 85 (dyletswydd gyffredinol cyrff cyhoeddus etc.) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, yn is-adran (3), yn y diffiniad o “public body”, ar y diwedd mewnosoder—“
(e) a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
am 9.45 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021