Mae’r Offeryn Statudol hwn yn cywiro camgymeriad gan O.S. 2021/1342 (Cy. 346) ac mae’n cael ei ddyroddi’n rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2021 Rhif 1354 (Cy. 352)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021
Gwnaed am 4.50 p.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym am 8.00 p.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru  2 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 8.00 p.m. ar 1 Rhagfyr 2021.
Diwygiad i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
2 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygiad i reoliad 6HB(3)
3 
Yn rheoliad 6HB(3) (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr rheoliad 2A), yn y testun Cymraeg, yn lle “14 o ddiwrnodau” rhodder “10 niwrnod”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 4.50 p.m. ar 1 Rhagfyr 2021