
2021 Rhif 1351 (W. 350)
Cydraddoldeb, Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Rhif 2) (Cymru) 2021
Gwnaed am 9.35 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym 3 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 2(4)(a) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 209(2), (3)(a) a (6) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Rhif 2) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010
2 
Yn adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y ddyletswydd sector cyhoeddus ynghylch anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol), yn is-adran (3A), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(ba) a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o
Am 9.35 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021